Wynebau'r Milwyr a Gollwyd

Cychwynnwyd y Prosiect "Wynebau'r Milwyr a Gollwyd" ar ddechrau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf fel ffordd o anrhydeddu'r Cymry Brenhinol hynny a wnaeth yr aberth pennaf yn ystod y gwrthdaro creulon hwn. Cafodd dros 11,000 o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn gwasanaethu mewn 40 Bataliwn (pob un o 1000 o ddynion), eu lladd ar faes y gad, marw o glefyd neu mewn damwain yng ngwasanaeth eu gwlad. Mae'r rhif hwn yn sylweddol fwy nag unrhyw gatrawd Gymreig arall, y dynion yn dod, nid yn unig o Gymru ond ar draws y Deyrnas Unedig a'r dominiwn. Gyda chefnogaeth ariannol rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 Llywodraeth Cymru, mae'r bas data chwiliadwy hon wedi'i chynllunio a'i chynnal ar wefan Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru fel adnodd ymchwil i'r cyhoedd ei ddefnyddio, yn rhad ac am ddim. Mae'n etifeddiaeth unigryw ac addas o’r digwyddiadau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Credwn ein bod yn dod â'r Cymry Brenhinol hyn yn ôl i gartref ysbrydol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Ar adeg lansio'r bas data, roedd dros 2,500 o ffotograffau o'r Cymry Brenhinol wedi ei henwi. Mae Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn ddyledus iawn i grŵp bach o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gwneud y deyrnged addas hon yn bosibl. Yn benodol, Shirley Williams, gafod y syniad cychwynnol i ddechrau'r prosiect ac i Dr John Krijnen ddaru adeiladu’r bas data ac sydd wedi treulio cannoedd o oriau yn ymchwilio i gadarnhau anafiadau yn rhestru manylion ac yna mewnbynnu'r data sy'n gwneud y bas data hwn yn unigryw i'r Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Hoffem hefyd ddiolch i Mr Dai Hood, cyn-aelod o'r gatrawd, am ei waith yn cefnogi'r prosiect sydd wedi bod yn amhrisiadwy. Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r holl deuluoedd; grwpiau hanes a threftadaeth, archifau sirol a phrosiectau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi cyfrannu at ein prosiect.

Bydd y bas data hwn yn parhau i dyfu wrth i fwy o luniau ddod i'r amlwg, os oes gennych ffotograffau o aelodau o'r teulu neu o ffynonellau eraill, nad ydynt wedi'u dangos eisoes ac yr hoffech roi'r delweddau yna anfonwch at image@rwfmuseum.wales

Y cam nesaf o’r prosiect, o'r enw “Y cyfan sydd ar ôl ohonynt”, yn cael ei enwi ar ôl y pennawd ar lun oroeswyr Y FfBC o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd hyn yn ehangu'r prosiect i gynnwys pawb a fu'n ymladd gyda'r Gatrawd ac a oroesodd y Rhyfel. Gallwch hefyd e-bostio lluniau o oroeswyr, gyda'u manylion a'r teitl “All that is left of them” ar y llinell destun e-bost i'r cyfeiriad e-bost uchod.

Diolch i chi am eich cefnogaeth i'r prosiect hynod bwysig hwn

Chwilio

Blaenorol Nesaf > 

Hysbysiad Hawlfraint