Adnoddau am Ddim

WW1

WW2

RWF

information coming soon...

Mae gwefan Ogilby Muster (TOM) yr archif ddigidol sy’n cynnwys deunydd a ganfuwyd yn archifau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chatrodau ac unedau eraill y Fyddin Brydeinig. Mae’n cynnwys ffotograffau, dogfennau, mapiau, clipiau fideo a chlipiau sain. Bydd unrhyw arian sy’n cael ei wario ar y llwyfan yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal yr Amgueddfeydd Catrodol ac yn galluogi’r Ogilby Muster i barhau â’i waith o ychwanegu cynnwys newydd yn ogystal â chynnal y llwyfan ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a TOM yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a wneir. Mae’r archif yn cynnwys deunydd yn bennaf o’r cyfnod 1899-1929 ar hyn o bryd. Mae dros 660,000 o ddelweddau ar gael ar draws y llwyfan, ac mae hyn yn cynyddu bob dydd.

P’un a ydych chi’n ymchwilio i hanes eich teulu, yn ymchwilio i lifrai milwrol, gyda diddordeb mewn cerbydau neu mewn edrych ar fywydau a phrofiadau bob dydd y milwr Prydeinig, mae’r casgliad archifol sydd gan ein hamgueddfa ac sydd ar gael trwy’r Ogilby Muster yn rhoi cipolwg unigryw i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (RWF).

The Ogilby Muster logo
  • 1-capt-walter-nangreave-williams
  • 2-officers13th-rwf-north-wales-pals-battalion
  • 3-csm-robert-ernest-thomas-dcm-of-5th-rwf-and-his-family
  • 4-1-rwf-all-india-boxing-chmpions-1926