Cyfrannwch
Nawr yn fwy nag erioed mae angen eich cefnogaeth arnom i sicrhau bod ein cenhadaeth i warchod, hyrwyddo ac addysgu hanes a dyfodol y Gatrawd yn gyflawn. Drwy gefnogi Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rydych yn ymuno â chymuned glos o gefnogwyr sy’n sicrhau bod yr Amgueddfa yn fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae sawl ffordd y gallwch chi gyfrannu at yr Amgueddfa, gan gynnwys rhoddion ariannol ar-lein. Gallwch wneud eich cyfraniad at y genhadaeth yma:
Ffyrdd eraill i gefnogi:
Ymuno a Chyfeillion Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Gwybodaeth i ddilyn...
Gwybodaeth i ddilyn...
Mae gennym dros 21,000 o arteffactau yn ein casgliad yn yr Amgueddfa ac yn Amgueddfa ac Archifau Wrecsam. Rydym ni’n gofalu am ein gwrthrychau i safon uchel ac o’r herwydd, gallant fod yn gostus. Mae hyn yn golygu ein bod yn gorfod dewis a dethol yr hyn y gallwn ei dderbyn a gofalu amdano. Rhaid i bob rhodd newydd ffitio o fewn ein Polisi Casgliadau, helpu i adrodd hanes ardaloedd casglu nad ydynt wedi’u datblygu neu fod o arwyddocâd mawr i’r gatrawd / ardal leol. Ni allwn dderbyn unrhyw eitem lle nad yw perchnogaeth yr eitem yn hysbys neu lle mae dadl am y berchnogaeth.
I gynnig eitem ar gyfer ein casgliadau, cysylltwch â ni (contact@rwfmuseum.wales) gan nodi cymaint o wybodaeth â phosibl am yr eitem(au), sut y cawsoch nhw, ac unrhyw fanylion am y gwrthrych.