Cwestiynau Cyffredin

Isod ceir dolenni at rai gwefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:-

image

Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw yn ein harchifau gan fwyaf yn gofnodion hanesyddol o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, eu catrodau a’u hunedau hanesyddol. Mae modd canfod gwybodaeth a ffotograffau ar gyfer nifer cyfyngedig o filwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig drwy’r gwasanaeth ymholi, ond nid oes modd gwarantu hyn. Mae ffi gymedrol am y gwasanaeth hwn.

 

Gwasanaeth Ymholiadau Ymchwil y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Caiff Casgliad Wrth Gefn Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Llyfrgell Ymchwil y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig eu cadw yn Amgueddfa ac Archifau Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, LL11 1RB. Mae hyn yn rhan o gytundeb hirdymor rhwng Ymddiriedaeth Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ymholiadau Ar-lein

Fel llawer o amgueddfeydd eraill, bydd ffi gymedrol am unrhyw waith ymchwil a gynhelir yn archifdy Wrecsam. Dilynwch y ddolen isod, a fydd yn mynd â chi at ddau opsiwn talu a ffurflen ymholi yn seiliedig ar faint a chymhlethdod eich ymholiad penodol.

www.wrexham.gov.uk/PayArchives

Ymwelwyr

Mae modd cael mynediad at Lyfrgell Ymchwil y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y cyfleuster ymchwil cyflawn o fewn Amgueddfa ac Archifdy Wrecsam. Rydym yn argymell galw ymlaen llaw i drefnu apwyntiad, er mwyn sicrhau bod y dogfennau yr ydych chi’n gwneud cais amdanynt ar gael.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ffoniwch 01978 297480 neu e-bostiwch: localstudies@wrexham.gov.uk

Mae gwybodaeth am amseroedd agor a chyfleusterau ar y safle ar gael drwy wefan Amgueddfa ac Archif Wrecsam drwy’r ddolen isod:

 

www.wrexham.gov.uk/english/heritage/archives/index.htm

Nid yw'r cofnodion yma gennym ni , ond mewn gwahanol leoedd eraill. Os gwelwch yn dda ewch i’r Adran Hon am wybodaeth ynghylch Cofnodion gwasanaeth hanesyddol

Cofiwch nodi: Nid ydym yn cadw Cofnodion Gwasanaeth swyddogion a milwyr unigol. Ewch i’r adran hon i gael rhagor o wybodaeth am Gofnodion Gwasanaeth a sut i’w olrhain.

Yn bennaf mae'r gwybodaeth sydd gennym yn ein archifau cofnodion hanesyddol o'r catrodau blaenorol a'u hunedau yn hytrach na chofnodion gwasanaeth milwyr unigol . Mae gwybodaeth a lluniau ar gael ar gyfer nifer cyfyngedig iawn o filwyr FfBC trwy'r gwasanaeth ymholiadau ond ni ellir gwarantu hyn.

Ar gyfer cofnodion gwasanaeth milwr unigol byddem yn argymell eich bod chi, yn y lle cyntaf , yn cysylltu â’r swyddfeydd hynny lle mae'r cofnodion gwasanaeth yn cael eu cadw. Mae cofnodion gwasanaeth unigol yn cael eu dal gan:

Y Rhyfel Mawr 1914-18 ac yn gynharach

Mae'r Archifau Cenedlaethol ( NA ) yn Kew , gynt y PRO , yn dal y Cofnodion Gwasanaeth bersonol o filwyr a swyddogion a fu'n gwasanaethu cyn 1920. Yn anffodus collwyd tua 60% o'r Cofnodion Gwasanaeth 1914-18 yn ystod y Blitz yn 1940. Eitha tebyg felly nad fyddwch yn dod o hyd i gofnod milwr yn y Rhyfel Fawr. Mae Cofnodion Gwasanaeth1914-18 hefyd ar gael ar-lein trwy www.ancestry.co.uk ond mae angen tâl tanysgrifiad.

Mae’r Archifau Cenedlaethol hefyd yn dal y canlynol; Rhestrau cyflog, Rhestrau Mwstwr , Cofnodion Pensiynwyr Ysbyty Brenhinol Chelsea, Rhestrau Medalau ar gyfer ymgyrchoedd rhwng 1793 a 1904 , cardiau mynegai medalau’r Rhyfel Mawr ar ffufr gatrodol neu unedol a Dyddiaduron Rhyfel ar gyfer WW1 a WW2.

Mae'r Archifau Cenedlaethol yn cyhoeddi canllawiau defnyddiol i ymchwilwyr -

  • Cofnodion y Fyddin : Canllawiau i Haneswyr Teulu
  • Cofnodion y Fyddin Gwasanaeth Rhyfel Byd Cyntaf

Mae'r teitlau rhain ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol drwy eu Siop Lyfrau Ar-lein .

Gwefannau Defnyddiol yr Archifau Cenedlaethol:
www.nationalarchives.gov.uk (yn cynnwys catalog PROCAT ar-lein)
www.1901census.com (Cyfrifiad 1901 TU)
www.1911census.co.uk (Cyfrifiad 1901 TU)
National Archives, Ruskin Avenue, Kew, Richmond, Surrey TW9 4DU
Tel: 0044 (0) 208876 3444

Ar Ôl 1920

Mae pob Cofnod Gwasanaeth milwyr a wasanaethodd ar ôl 1920 (gan gynnwys y rhai a ymrestrodd yn gynharach ac roeddent dal mewn gwasanaeth ar y dyddiad hwn ) yn cael eu dal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y Ganolfan Personél y Fyddin . Codir ffi am bob ymchwiliad , hyd yn oed os nad oes deunydd yn cael ei ddarganfod. Mae rhaid cwblhau furflen arbennig cyn dechrau'r ymchwiliad. Mae'n hanfodol eich bod yn dyfynnu'r rhif Catrawd a Byddin y milwr dan sylw. Mae bob amser llawer o ymholiadau , felly gall gymryd rhai wythnosau i dderbyn ateb . I lawrlwytho ffurflen gais ( SAR ) - ewch www.veterans-uk.info a chliciwch ar ' Cofnodion y gwasanaeth .'

Canolfan y Fyddin Personél , Datgeliadau Hanesyddol, Mailpoint 400 , Kentigern House, 65 Brown Street, Glasgow G2 8EX . Ffôn : 0044 (0) 141 2243303 neu 2242023

Anafusion Rhyfel Byd 1 a 2

Ar gyfer milwyr a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau Ryfel Byd , manylion bedd neu cofeb mae gwybodaeth ar gael ar - lein gan y Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn: www.cwgc.org

Cofiwch nodi: Nid ydym yn cadw Cofnodion Gwasanaeth swyddogion a milwyr unigol. Ewch i’r adran hon i gael rhagor o wybodaeth am Gofnodion Gwasanaeth a sut i’w olrhain.

Dyma ddetholiad o’r cwestiynau mwyaf cyffredin:-

 

Pam fod Welch wedi’i sillafu â "c"?

Dyma’r hen sillafiad Seisnig o 'Welsh'. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy ffurf wedi cael eu defnyddio, ac yn ystod Rhyfel y Boer a’r Rhyfel Mawr, y sillafiad swyddogol oedd 'Welsh'.
Ym 1920 cadarnhaodd Gorchymyn y Fyddin rhif 56 yn derfynol mai’r sillafiad swyddogol fyddai 'Welch'.

 

Beth yw "The Flash"?

Dyma’r enw a roddir i’r pum rhuban du sy’n cael eu gwisgo ar gefn y coler.
Mae’r rhubanau’n gyswllt â’r dyddiau pan fyddai milwyr yn gwisgo plethi.
Byddai’r rhain yn cael eu powdro, eu hiro, ac er mwyn gwarchod y got goch, eu rhoi yn yr hyn a gâi ei alw’n fag cwt.
Ym mis Gorffennaf 1808 gorchmynnwyd y dylid torri gwallt yn agos at y gwar a gwaredwyd y gwt. Ar y pryd roedd y Bataliwn Cyntaf yng Nghanada. Fodd bynnag penderfynodd y swyddogion gadw’r rhubanau oedd yn clymu’r gwt.
Gan ddefnyddio hen derm slang am wallt gosod, galwyd y rhain yn 'Flash'.
Ym 1834, nododd Cadfridog oedd yn archwilio’r milwyr "yr addurn diangen ar goler y got” a gorchmynnodd y dylid tynnu’r Flash.
Pan soniwyd am hyn wrth y Brenin William IV, cafodd Cyrnol y Gatrawd lythyr yn datgan fod Ei Fawrhydi yn falch i gymeradwyo’r Flash fel “nodwedd i roi cymeriad i wisg y Gatrawd nodedig honno.”
Tan 1900 dim ond Rhingylliaid a Swyddogion fyddai’n ei wisgo

 

Beth yw ystyr ffiwsilwr?

Daw’r enw o’r gair fusil - ffurf gynnar o fwsged carreg fflint a fyddai’n cael ei roi i filwyr elit yn unig i warchod y fagnelaeth yn ystod y frwydr. Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd un o’r catrodau cyntaf i gael yr anrhydedd hon ym 1702, a’r unig un i barhau heb newid ei theitl nag uno â chatrawd arall hyd heddiw.
Er 1923 mae aelodau cyffredin y Gatrawd (‘Preifat’) wedi’u hadnabod yn swyddogol fel Ffiwsilwyr.

 

Beth yw hanes yr Afr Gatrodol?

Nid oes cofnod yn bodoli sy’n nodi tarddiad arfer y Gatrawd o orymdeithio gyda gafr yn ei harwain.
Daw’r cyfeiriad cynharaf ym 1777: “Mae gan gatrawd Frenhinol y Ffiwsilwyr Cymreig yr anrhydedd balch o basio gyda Gafr o’u blaen â chyrn wedi’u heuro, ac wedi’i haddurno â chylchoedd blodau” a bod “y corfflu yn rhoi gwerth mawr ar hynafiaeth yr arfer.”
Ym 1844 cyflwynodd y Frenhines Fictoria yr Afr Frenhinol gyntaf, ac ers hynny mae’r mwyafrif o’r geifr wedi’u cyflwyno gan y Brenin neu’r Frenhines o blith y praidd brenhinol.
Mae gan bob gafr blât pen arian yn nodi ei bod yn anrheg gan y Brenin neu’r Frenhines.
Mae gafr y Bataliwn cyntaf hefyd yn gwisgo cadwyn arian a tharian am ei gwddf a gyflwynwyd gan Faer a dinasyddion Lichfield ym 1904.
Mae’r Afr yng ngofal milwr â’r teitl anrhydeddus Uwch-gapten yr Afr.

 

Pwy oedd yr Arloeswyr Seremonïol?

Cyn dyddiau ffyrdd a phontydd da, roedd angen cael dynion i baratoi’r ffordd i’r Gatrawd wrth iddynt ymdeithio a darparu gwasanaethau yn y gwersyll.
Y rhain oedd yr Arloeswyr oedd oll yn fasnachwyr a milwyr a gafodd eu dethol. I warchod eu ffurfwisg, byddent yn gwisgo ffedogau a menig lledr.
O’u safle ar ben y Gatrawd pan fyddai yn y maes, datblygodd traddodiad bod yr Arloeswyr yn ei harwain ar orymdeithiau seremonïol, gyda neb ond yr Afr Gatrodol o’u blaen.
Maent yn gwisgo ffedogau a menig bwchgroen, ac yn cludo eu hoffer traddodiadol: bwyelli, rhofiau, ceibiau a batogau.
Cymeradwywyd yr anrhydedd unigryw hon yn swyddogol ym 1886.

 

Beth yw arwyddocâd Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth)?

Go brin fod nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn cael ei anrhydeddu mor seremonïol a rheolaidd yn unman ag ar 1 Mawrth lle bynnag mae’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn digwydd bod. Mewn cyfnodau o heddwch a rhyfel, gartref a thramor, caiff cennin eu gwisgo, a nodir y diwrnod, cyhyd â bod hynny’n bosibl, yn ddiwrnod o wyliau.
Mae’r seremoni hynafol o fwyta’r genhinen yn Ystafell Fwyta’r Swyddogion wedi parhau’n ddigyfnewid dros y blynyddoedd. Cofnodwyd fod “… y swyddogion yn rhoi adloniant rhagorol i’w holl frodyr Cymreig, ac ar ôl i’r lliain gael ei chludo ymaith … mae’r band yn chwarae’r hen dôn “Hil Anrhydeddus Siencyn”, gyda drymiwr hardd, wedi’i wisgo’n urddasol, ar gefn yr afr sydd wedi’i haddurno’n gyfoethog ar gyfer yr achlysur, yn cael ei arwain dair gwaith o gylch y bwrdd mewn gorymdaith gan flaenor y drwm…” Er na chaiff ei marchogaeth bellach, caiff yr Afr ei harwain o gwmpas y bwrdd o hyd ar ôl cinio, gyda drymiwr yn ei dilyn, a phibyddion a blaenor y drymiau’n cludo plât arian ag arno gennin amrwd, a rhingyll yr ystafell fwyta â chwpan serch ag ynddo siampaen. Maent yn aros wrth yr is-swyddog mwyaf diweddar sy’n sefyll ar ei gadair, a chan osod ei droed dde ar y bwrdd, mae yntau’n bwyta cenhinen wrth i’r drymiwr chwarae, tan iddo gwblhau’r genhinen gyfan. Yna rhoddir y cwpan serch iddo ar gyfer y llwncdestun “a Dewi Sant”. Disgwylir i bawb sy’n bresennol nad ydynt wedi “bwyta cenhinen” gyda’r Gatrawd, gan gynnwys gwesteion, wneud hynny cyn i’r orymdaith ymadael.
Cynhelir seremonïau tebyg yn Ystafell Fwyta’r Rhingylliaid, a neuaddau’r rhengoedd eraill, lle mae’r milwr diweddaraf i ymuno â phob Cwmni’n bwyta cenhinen.

 

A yw’r gatrawd yn defnyddio’r iaith Gymraeg?

Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yw’r unig gatrawd ym Myddin Prydain, ac eithrio’r Gurkhas, i ddefnyddio iaith ar wahân i’r Saesneg. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd mwy nag un bataliwn yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd. Yn Burma, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei defnyddio i guddio bwriadau oddi wrth filwyr Japan. Ym 1995 defnyddiodd y Bataliwn Cyntaf yr iaith yn Bosnia. Y Gymraeg yw iaith gyntaf llawer o aelodau’r gatrawd.

 

Rhoddion Arteffact

Mae’r Amgueddfa bob amser yn falch i dderbyn gwrthrychau a dogfennau’n ymwneud â hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ac eithrio medalau cyrch, a gaiff eu harddangos, mae’r mwyafrif o’r eitemau a roddir yn cael eu gosod yn y casgliad wrth gefn lle cânt eu hastudio gan ymchwilwyr neu eu defnyddio mewn arddangosfeydd yn y dyfodol.

Cysylltwch â’r curadur am ragor o fanylion.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu os hoffech wneud sylw ar ein gwefan , e-bostiwch ni ar: contact@rwfmuseum.wales