Polisi Cwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i'ch gwahaniaethu o ddefnyddwyr eraill. Mae cwcis yn ein galluogi i roi profiad gwell i chi a gwella ein gwefan drwy ddeall yn well sut rydych yn ei defnyddio. Darllenwch y Polisi Cwcis hwn yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddeall.

Ffeiliau testun yw cwcis sy'n cynnwys darnau bach o ddata a gaiff eu defnyddio i adnabod eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Caiff data a gedwir mewn cwci eu creu gan y gweinydd ar ôl ichi gysylltu ag ef. Mae'r data wedi'u labelu â manylion adnabod sy'n unigryw i chi a'ch cyfrifiadur.

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i weithio'n fwy effeithlon, ac i ddarparu rhywfaint o wybodaeth i ni am y ffordd rydych chi'n defnyddio ein gwefan. Mae cwcis yn dangos i ni sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n gwefan. Gallant ddweud wrthon ni sut y gwnaethoch fynd i mewn i'r wefan, sut y gwnaethoch lywio drwy'r wefan a'r wybodaeth a'r ddogfennaeth a oedd o ddiddordeb i chi. Byddwn wedyn yn defnyddio'r wybodaeth i wella ein gwefan.

Caiff y cwcis rydym yn eu gosod ar eich dyfais eu categoreiddio fel a ganlyn:

Cwcis Sesiynau – cwcis dros dro ac yn dod i ben pan fyddwch yn cau'r porwr.
Cwcis Parhaus – mae ganddynt ddyddiad dod i ben penodol. Dim ond ar ôl iddynt ddod i ben y bydd y porwr yn eu dileu.

Cwcis Perfformiad – yn casglu gwybodaeth am y ffordd rydych yn defnyddio ein gwefan, e.e. y tudalennau rydych yn ymweld â nhw amlaf. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth y gellir eich adnabod yn bersonol ohoni.

Cwcis Olrhain Dienw – gallwn olrhain eich defnydd o'r wefan heb gasglu eich data personol.

Cwcis Parti Cyntaf – caiff y cwcis hyn eu gosod ar eich dyfais yn uniongyrchol gan y wefan rydych yn ymweld â hi.
Cwcis Trydydd Parti – caiff y cwcis hyn eu gosod ar eich dyfais gan drydydd parti fel system ddadansoddi.

Nodir yr hyn y mae'r cwcis yn ei wneud yn y tabl isod.

Enw'r Cwci Disgrifiad
__utma, __utmb, __utmc, __utmc, ga, gat, gid Google Analytics: Rydym yn defnyddio Google Analytics i fonitro lefelau traffig, ymholiadau chwilio ac ymweliadau i'r wefan hon.
Mae Google Analytics yn storio cyfeiriadau IP yn ddienw ar ei weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau, ac nid yw CIVIC na Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod yn bersonol ohoni.
Mae'r cwcis hyn yn galluogi Google i weld a ydych wedi ymweld â'r wefan o'r blaen ac i olrhain y tudalennau rydych yn eu defnyddio yn ystod eich sesiwn.
Dim ond ar ôl i'r defnyddiwr roi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis y cânt eu defnyddio.
civicAllowCookies, civicShowCookieIcon, Gofynnol, dadansoddeg Cwcis Rheoli Cwcis. Nod y cwcis hyn yw cofio dewisiadau o ran cwcis.

 

Caniatâd i ddefnyddio cwcis
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i osod cwcis neu dechnolegau tebyg eraill ar eich dyfais, ac eithrio cwcis sy'n hanfodol i ni ddarparu'r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano.