Y Cyfan Sydd ar Ôl
Mae'r Prosiect 'Y Cyfan Sydd ar Ôl' yn cymryd ei enw oddiar ffotograff, a ddangosir isod, o grŵp o filwyr o Gwmni H, 4ydd Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ac oedd yn dal i wasanaethu ar ddiwedd yr elyniaeth ar ôl goroesi'r rhyfel ar Ffrynt y Gorllewin. Mae Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn hynod ddiolchgar i Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a ariannodd y bas data hon. Mae'r prosiect hwn yn dilyn ein prosiect gwreiddiol Wynebau Disgynyddion a ddechreuwyd ar ddechrau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf fel ffordd o anrhydeddu dynion y Cymry Brenhinol, y rheini a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod y gwrthdaro creulon hwn. Mae prosiect 'Y Cyfan Sydd ar Ôl' yn ei ddyddiau cynnar ond mae'n ceisio casglu cymaint o enwau a ffotograffau o'r rhai a wasanaethodd ag a oroesodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hon yn dasg enfawr gan fod 40 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys 1,000 o ddynion. Trosglwyddwyd cyfanswm o rwng 90,000 a 100,000 o ddynion drwy rengoedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod y gwrthdaro.
Bydd y bas ddata oroeswyr hon yn adeiladu dros amser i etifeddiaeth unigryw a phriodol arall Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Credwn fod y ddau brosiect yn dod â'r Cymry Brenhinol hyn yn ôl i gartref ysbrydol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Mae Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn ddyledus iawn i grŵp bach o wirfoddolwyr ymroddedig sy'n gwneud y deyrnged addas hon yn bosibl. Yn benodol i Shirley Williams, ei syniad cychwynnol oedd dechrau'r ddau brosiect ac i Dr John Krijnen sydd wedi adeiladu'r gronfa ddata ac sy'n parhau i ymchwilio i fanylion gwasanaeth ac yna mewnbynnu'r data sy'n gwneud y gronfa ddata hon yn unigryw i Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn olaf, diolch i'r holl deuluoedd, grwpiau hanes a threftadaeth, archifau'r sir a phrosiectau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi cyfrannu at ein prosiect.
Bydd y bas ddata hon yn parhau i dyfu wrth i fwy o luniau ddod i'r amlwg. Os oes gennych ffotograffau o aelodau o'r teulu neu o ffynonellau eraill nad ydynt wedi'u dangos eisoes ac yr hoffech roi'r lluniau i ni , yna anfonwch nhw, gyda cyn gymaint o wybodaeth â phosibl, at image@rwfmuseum.wales. Os yw'r ffotograff o oroeswr, rhowch yr pennawd i'r e-bost 'All That is Left of Them'
Diolch i chi am eich cefnogaeth i'r prosiect hynod bwysig hwn.