You are: Home>Stories

  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

  

 

 

 
Stories from the Museum

Cliciwch yma i weld y tudalen yn Saesneg

 
Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mrwydr Gyntaf y Somme, 1 Gorffennaf hyd 18 Tachwedd 1916

Ym mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf 1916, daeth deg bataliwn o blith y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (FfBC) yn rhan o lu enfawr o ddynion ac arfau y Fyddin Brydeinig a fyddai, gyda’r Fyddin Ffrengig ar yr ochr dde iddynt, yn ymosod ar linell flaen yr Almaenwyr yng Ngogledd Ffrainc. Byddai’r ymosodiad hwn yn cael ei adnabod yn swyddogol fel Brwydr Gyntaf y Somme.

 Nid oedd y naill na’r llall o ddau fataliwn Rheolaidd y Gatrawd yn rhan o’r Fyddin Alldeithiol Brydeinig (BAB). Cafodd y cyntaf ei alw’n ôl o dramor a glaniodd yn Ffrainc ym mis Hydref 1914; cyrhaeddodd yr ail Loegr yn rhy hwyr i gael ei gynnwys yn y BAB wreiddiol, ac ymunodd â hi ddiwedd mis Awst ar ôl cyfnod yn gwasanaethu fel milwyr Llinellau Cyfathrebu. Cyrhaeddodd y 1/4ydd – sef bataliwn o’r Fyddin Diriogaethol cyn y rhyfel yn sir y Fflint – Ffrainc ym mis Rhagfyr 1914 ac erbyn mis Mehefin 1916 roedd yn fataliwn Arloesol.


Roedd y saith bataliwn arall yn cynnwys dynion oedd wedi ateb galwad yr Arglwydd Kitchener am wirfoddolwyr tua dechrau’r rhyfel. Roedd pump o blith y bataliynau ‘Byddin Newydd’ hyn (13eg-17eg FfBC) mewn brigadau (113eg a 115fed) oedd yn ffurfio rhan o’r 38ain Adran (Gymreig) - ‘Byddin Gymreig’ Lloyd George.

Dim ond y Bataliwn 1af a’r 9fed fu’n rhan o’r ymladd ar ddiwrnod cyntaf y frwydr, 1 Gorffennaf, ym mhentrefi Fricourt a La Boiselle yn eu tro. Gan eu bod wrth gefn, ychydig o golledion a gafwyd, yn wahanol i’r Fyddin Brydeinig yn gyffredinol, a ddioddefodd gyfanswm o dros 57,000 o anafiadau, gyda 19,240 yn cael eu lladd. Ond rhwng 5 a 12 Gorffennaf, bu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn enwedig y rhai hynny mewn bataliynau oedd yn rhan o’r 38ain Adran (Gymreig), yn rhan o’r frwydr ehangach y bydd ei henw gyfystyr â dewrder y milwr Cymreig yn wastadol - Coed Mametz.

Cafodd y frwydr i ennill y darn hwn o goetir trwchus ei disgrifio gan Wyn Griffith, un o blith nifer o ysgrifenwyr rhagorol oedd yn gwasanaethu yn y Gatrawd, fel a ganlyn:
 

            … erchylltra ein ffordd o fyw a marw a’r modd y croeshoeliwn ieuenctid.

Roedd pwysigrwydd strategol i’r Goedwig ac roedd troedfilwyr a magnelau’r Almaenwyr yn ei hamddiffyn; methodd nifer o ymosodiadau ar 7 a 8 Gorffennaf gyda’r milwyr yn cael eu saethu i lawr wrth iddyn nhw groesi’r tir agored. Ysgrifennodd y Cadbennaeth, y Maeslywydd Sir Douglas Haig am hyn yn ei ddyddiadur:

          Nid oedd y 38ain Adran Gymreig yn ymroi i’r ymosodiad â phenderfyniad

 – cyhuddiad hollol anghyfiawnadwy wedi’i seilio ar wybodaeth anghyflawn. Mewn gwirionedd collodd y 115fed Brigâd dros 600 o ddynion yn rhan hon y frwydr.

Fodd bynnag, yn gynnar ar 10 Gorffennaf, llwyddodd ymosodiad o’r newydd gan y 113eg a’r 114eg Brigâd (gyda’r cyntaf yn cynnwys pedwar bataliwn FfBC) i ennill tir yn y Goedwig, a than yn hwyr ar y diwrnod canlynol bu’r bataliynau Cymreig yn ymladd eu ffordd drwy’r coed toredig, anhrefnus a dryslyd a’r prysgwydd trwchus yn erbyn gelyn anweledig, gyda gwrthglawdd o fagnelau o’u blaenau yn ychwanegu at y sŵn byddarol ac yn dadwreiddio mwy fyth o goed. I wneud yr erchylltra a’r dryswch yn waeth, roedd y rhain weithiau yn syrthio ar eu dynion eu hunain. Ond yn ystod y nos ar 11/12 Gorffennaf, ciliodd yr Almaenwyr o’r Goedwig, gan adael cannoedd yn farw. Fel yr ysgrifennodd Colin Hughes yn ei gofnod o’r frwydr - sydd i raddau yn gwneud yn iawn am feirniadaeth anystyriol Haig –

      … gellir priodoli’r cipio yn llwyr i’r 38ain Adran (Gymreig) …

Ond roedd y gost i’r Adran yn uchel iawn – collwyd yn agos i 4,000 o ddynion gan gynnwys 600 yn cael eu lladd a llawn cymaint ar goll. Collodd pum bataliwn y FfBC dros 1,000 o ddynion gan gynnwys pedwar o’r pum prif swyddog: rhaid cofio nad oedd unrhyw un o blith yr Adran wedi cael ei hyfforddi i ymladd mewn coedwig drwchus, ac i’r mwyafrif, hwn oedd eu profiad cyntaf o frwydro.

Ar 16 Gorffennaf, roedd Robert Graves, oedd yn aelod o 2il Fataliwn y FfBC, yn gwersylla y tu allan i Goedwig Mametz ymysg y meirwon o fataliynau Byddin Newydd y Gatrawd. Aeth i mewn i’r goedwig, ac yn ddiweddarach yn ei gerdd 'A Dead Boche' ail-greodd ei ymateb i’r distryw a’r holl farwolaeth a welodd yno:

 

Heddiw yng Nghoed Mametz
Gwelais ffordd i waredu chwant am waed
[Today I found in Mametz Wood
A certain cure for lust of blood.]

Dros y dyddiau canlynol, symudodd yr ymladd yn y sector hwn o’r ffrynt i’r gogledd ac i’r dwyrain o Goed Mametz, i ardal rhan o ail system amddiffyn y gelyn. Ar 14 Gorffennaf, cymrodd y Bataliwn 1af ran yn ymosodiad llwyddiannus yr 22ain Brigâd ar bentref Bazentin-le-Petit a chwaraeodd ran nodedig yn gwrthyrru gwrthymosodiadau Almaenig dilynol; ac ar 18 Gorffennaf, bu’r 10fed Bataliwn yn llwyddiannus yn yr ymosodiad ar Goed Delville, gyda dau o’u plith, y Corporal J.J.Davies a Preifat A.Hill, yn ennill Croes Fictoria ar y diwrnod hwnnw; ond collodd y Bataliwn 228 o ddynion, gan gynnwys 15 o swyddogion, yn yr ymladd hwn. Rai wythnosau’n ddiweddarach, ysgrifennodd yr Is-gyrnol Stockwell, y swyddog oedd yn rheoli Bataliwn 1af y FfBC:

            Mae Coedwig Delville yn amhosibl i’w ddisgrifio. Meirwon a darnau o bobl ymhobman. Ein ffosydd yn dagfa o feirwon a’r drewdod yn erchyll. 

Ar 20 Gorffennaf gyrrodd yr 2il Fataliwn y gelyn allan o’r Goedwig Uchaf ond yna fe’u gorchmynnwyd i dynnu’n ôl - ysgrifennodd y Swyddog oedd yn Rheoli,,

Ni welais i erioed y fath agwedd odidog a gwych o ddiystyriol at farwolaeth ag a welais y diwrnod hwnnw. Roedd bron yn annaearol yn ei fawredd 

– ond o blith y 706 a aeth i mewn i’r goedwig, daeth llai na 100 allan yn ddianaf.

Corporal Joseph J Davies VC,  10fed FfBC

Ganwyd: 23 Ebrill 1889, Tipton, Swydd Stafford.
Listiodd: Y Gatrawd Gymreig, 19 Awst 1909.
Trosglwyddwyd i’r FfBC 8 Mai 1916.
Bu farw: 23 Chwefror 1976.

Am ddewrder amlwg tu hwnt yung Nghoed Delville, Ffrainc, ar Orffennaf 20fed, 1916. Yn union cyn yr ymosodiad ar y gelyn mewn coedwig cafodd ef ac wyth o’r dynion eu gwahanu oddi wrth weddill ei Gwmni. Pan wnaeth y gelyn eu hail wrth-ymosodiad roedd ef a’i griw wedi eu hamgylchynu’n llwyr ond llwyddodd i’w cael i dwll siel a thrwy daflu bomiau a dechrau tanio’n gyflym medrodd eu trechu. Heb fodloni ar hyn, dilynodd nhw i’w lloches a bidogodd sawl un ohonynt...

Private Albert Hill VC, 10fed FfBC

Ganwyd: 24 Mai 1895, Hulme, Manceinion.
Listiodd: 3 AWst 1914
Bu farw: 17 Chwefror 1971.

Am ddewrder amlwg tu hwnt yung Ngoed Delville, Ffrainc, ar Orffennaf 20fed, 1916. Pan leolwyd ei fataliwn dan ergydio trwm iawn, ar gyfer ymosodiad….llamodd ymlaen….a phan gyfarfu’n sydyn â dau o’r gelyn, bidogodd y ddau ohonynt….yn ddiweddarach….wrth gael ei hun wedi ei ynysu a’i amgylchynu bron yn llwyr gan ryw ugain o’r gelyn, ymosododd arnynt â bomiau, gan ladd a chlwyfo llawer a gwasgaru’r gweddill. Yna ymunodd â Sarsiant….a’i helpu i frwydro ei ffordd yn ôl ir llinellau. Wedi iddo gyrraedd yn ôl, pan glwyodd fod swyddog ei Gwmni a Sgowt yn gorwedd allan wedi eu hanafu, aeth allan yno a chynorthwyo i ddod â’r Swyddog clwyfedig i mewn….

 

Wrth i’r flwyddyn 1916 fynd rhagddi, roedd y ddau fataliwn rheolaidd a’r 10fed Bataliwn yn parhau i ymladd ar y Somme, ac ychwanegwyd enwau pentrefi Ffrengig megis Pozières, Guillemont, Morval ac Afon Ancre i Restr y Gatrawd o Anrhydeddau Brwydr y Somme. Cyhoeddwyd yn swyddogol fod Brwydr Gyntaf y Somme ar ben ar 18 Tachwedd 1916 – erbyn hynny, roedd y rhan hon o Ffrainc, a fu unwaith mor ddymunol a ffrwythlon, wedi’i thrawsnewid yn dirlun hunllefus anghyfannedd, llawn dinistr, distryw a mwd.

[I weld map  cliciwch yma]

Ond cyn hynny, yn fuan wedi i frwydr Coed Mametz ddod i ben, ysgrifennodd Colin Hughes am yr hyn a ddigwyddodd i 38ain Adran (Gymreig), gan gynnwys ei bataliynau FfBC:

            ..ni chafodd na gogoniant nac arbenigedd… eu priodoli iddynt [ond] yn lle hynny, cawsant eu bwndelu’n ddiseremoni i ffwrdd i sector tawel o’r ffrynt, ac ni chwaraeasant ran bellach yn yr ymladd ar y Somme..

Fodd bynnag, ni chawsant eu hanghofio, oherwydd heddiw mae draig goch ysblennydd Cymru, a fu unwaith yn arwyddlun balch i’r 38ain Adran (Gymreig), yn wynebu Coed Mametz, y fan lle syrthiodd cynifer o Gymry union naw deg o flynyddoedd yn ôl.

Troops resting in a sunken road at Mametz Wood before going into the trenches.  The photograph was taken on 17th July 1916 during the fighting for Bazentin Ridge.

Photograph by courtesy of the Imperial War Museum (neg. no. Q3978).  This image may not be copied without the permission of the Imperial War Museum.

The 38th (Welsh) Division Memorial at Mametz Wood.

Home | Museum | Publications | Shop/Gifts | Location | News | Stories | Enquiries | Links

  ©2001 Royal Welch Fusiliers Regimental Museum.  All rights reserved.

The Castle, Caernarfon, Gwynedd, North Wales, UK LL55 2AY

[T]: +44(0)1286 673362

[F]: +44(0)1286 677042

[E]: rwfusiliers@callnetuk.com


created by