|
Cafodd Ellis
Evans addysg sylfaenol yn yr ysgol elfennol a’r Ysgol Sul. Nid
oedd yn ddisgybl disglair ond roedd yn meddu ar ddawn barddoni
naturiol. Ysgrifennodd ei gerddi cyntaf pan oedd yn un ar ddeg
mlwydd oed. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg gan fynd i
weithio fel bugail ar fferm ei dad.
Dechreuodd
gystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn 19 oed, gan ennill ei
gadair farddol gyntaf yn y Bala ym 1907. Ym 1910 dechreuodd
arddel yr enw barddol “Hedd Wyn”. Y prif ddylanwad ar waith Hedd
Wyn oedd Shelley a phrif themâu ei waith oedd natur a chrefydd.
Ym 1913 enillodd gadeiriau ym Mhwllheli a Llanuwchllyn ac ym
1915 bu’n llwyddiannus ym Mhontardawe a Llanuwchllyn. Yn yr un
flwyddyn ysgrifennodd ei gerdd gyntaf i’r Eisteddfod
Genedlaethol, awdl i “Eryri”. Ym 1916 daeth yn ail yn
Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth gydag awdl i abaty
canoloesol Strata Florida. Roedd yn benderfynol y byddai’n
ennill y gadair y flwyddyn ganlynol.
Erbyn hyn roedd
y Rhyfel Mawr ar ei anterth. Roedd cefnogaeth frwd i’r rhyfel
yng Nghymru ac anogodd David Lloyd George, y Prif Weinidog ers
1916, ei gydwladwyr i aberthu ar gyfer ymdrechion y rhyfel.
Roedd Cymry wedi gwirfoddoli’n llu ers 1914 a doedd dim pall ar
y gefnogaeth ym 1916 pan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol.
Yn naturiol fe
effeithiodd y rhyfel ar waith Hedd Wyn a chynhyrchodd rhai o’i
gerddi gorau gan gynnwys “Plant Trawsfynydd”, “Y Blotyn Du”,
“Nid â’n Ango” a “Rhyfel”.
Roedd dewis
anodd yn wynebu’r teulu Evans ym 1916 - roedd rhaid i un mab
ymuno â’r fyddin er bod ffermio yn waith o bwysigrwydd
cenedlaethol. Ymrestrodd Ellis yn hytrach na’i frawd iau, Bob,
oedd yn briod. Ym mis Chwefror 1917 derbyniodd ei hyfforddiant
yng Ngwersyll Litherland, Lerpwl, lle’r enillodd ei natur
stoicaidd ond siriol lawer o ffrindiau iddo. Ym mis Mawrth 1917
galwodd y Llywodraeth am weithwyr fferm i gynorthwyo â gwaith
aredig a rhyddhawyd llawer o filwyr am gyfnod. Rhyddhawyd Hedd
Wyn am saith wythnos, a threuliodd lawer o’r cyfnod hwn yn
gweithio ar “Yr Arwr”, ei ymgais ar gyfer yr Eisteddfod
Genedlaethol. Dychwelodd at yr hyfforddiant ym mis Mai, yn
ddigon bodlon â chynnydd ei waith.
Ym mis Mehefin
1917 ymunodd Hedd Wyn â phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr
Brenhinol Cymreig yn Fléchin yn Ffrainc. Fe’i digalonnwyd gan yr
hyn a welodd “Tywydd trwm, enaid trwm, calon drom. Trindod
anghysurus, onid e?” Er hynny, yn Fléchin llwyddodd i gwblhau
ei gerdd i’r Eisteddfod Genedlaethol a’i llofnodi “Fleur de Lis”.
Fe’i hanfonwyd drwy’r post ar 15 Gorffennaf 1917. Ar yr un
dyddiad symudodd ei Fataliwn tuag at y Llinell Flaen yn barod ar
gyfer yr ymosodiad mawr a gâi ei adnabod fel Trydedd Frwydr
Ypres neu Passchendaele.
Dechreuodd yr
ymosodiad ar 31 Gorffennaf 1917 am 0350. Trowyd maes y gad yn
gors gan y glaw trwm. Cipiodd y 15fed Bataliwn Pilckem ac yna
symud ymlaen tuag at Iron Cross, gan ddioddef ymosodiad trwm gan
fagnelau a gynau peiriant. Trawyd Hedd Wyn yn ei frest gan
shrapnel ac fe’i cludwyd at Orsaf Cymorth Cyntaf. Ac yntau’n dal
i fod yn ymwybodol, gofynnodd i’r meddyg a oedd yn credu y
byddai’n goroesi. Roedd yn amlwg fodd bynnag nad oedd ganddo
fawr o obaith, a bu farw Hedd Wyn am tua 1100, un o filoedd o
filwyr a gollwyd y diwrnod hwnnw.
Ar 6 Medi 1917
cynhaliwyd defod Cadeirio’r Bardd yn yr Eisteddfod Genedlaethol,
oedd yn cael ei chynnal y flwyddyn honno ym Mirkenhead. Roedd
David Lloyd George yn bresennol. Cyhoeddodd y beirniaid mai
ymgais “Fleur de Lis” oedd yn fuddugol, a seiniwyd yr utgyrn
iddo gael ei ddangos ei hun. Ni safodd neb a darganfuwyd bod yr
enillydd wedi marw chwe wythnos ynghynt. Gorchuddiwyd y gadair
wag â lliain du. “Yr Ŵyl yn ei dagrau a’r Bardd yn ei fedd”
meddai’r Archdderwydd Dyfed.
Claddwyd Ellis
Humphrey Evans, “Hedd Wyn” ym Mynwent Artillery Wood yn Boezinge.
Cyhoeddwyd ei waith “ Cerddi’r Bugail”, ym 1918.
 |
 |
|
Ellis Humphrey Evans – “Hedd Wyn” |
Y
Gadair Ddu, a enillwyd gan Hedd Wyn yn Eisteddfod
Genedlaethol Birkenhead 1917, ar ôl iddo farw. |
|